Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Mawrth 2021
Amser:
09.15 -
11.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11113
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Hefin David AS Paul Davies AS (yn lle Suzy Davies AS) Siân Gwenllian AS Laura Anne Jones AS |
Tystion: |
Kieron Rees, Prifysgolion Cymru Dr Ben Calvert, Prifysgolion Cymru Amanda Wilkinson, Prifysgolion Cymru Dr David Blaney, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Bethan Owen, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Philip Blaker, Cymwysterau Cymru Denver Davies, Cymwysterau Cymru Yana Williams, Coleg Cambria Barry Walters, Coleg Sir Benfro Karen Phillips, Coleg y Cymoedd |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Phil Boshier (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies AS, roedd Paul Davies yn bresennol ar ei rhan fel eilydd. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru.
2 COVID-19: addysg uwch
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar addysg uwch a myfyrwyr yn y sector addysg uwch.
3 COVID-19: addysg bellach
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar addysg bellach a myfyrwyr yn y sector addysg bellach.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Llythyr gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Rheoleiddio yn y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ynghylch cyhoeddi adolygiad i'r dull o ddatblygu modelau ystadegol ar gyfer dyfarnu graddau yn 2020
4.1a Cafodd y papur ei nodi.
4.2 Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cyfarfod Gweinidogol Sector Gwaith Cynhwysiant Digidol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
4.2a Cafodd y papur ei nodi.
4.3 Crynodeb o'r drafodaeth ford gron a gynhaliwyd gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y cynnydd a wnaed o ran hawliau plant yng Nghymru.
4.3a Cafodd y papur ei nodi.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd o dan eitemau 2 a 3.